Blwyddyn Newydd Dda o Voices from Care Cymru!
Am y tro cyntaf ers y Pandemig, mae ein digwyddiad blaenllaw 'Proud to Be Me' yn ôl wyneb i wyneb ar ddydd Gwener 24 Chwefror 2023 yn y Grownd Criced Morgannwg, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9XW.
Mae 'Proud to be Me' i gyd yn ymwneud â dathlu ein cymuned ofal a dod at ein gilydd i gydnabod llwyddiant a bod yn ysbrydoledig. Byddem wrth ein bodd petaech yn dod draw gyda phobl ifanc 12+ oed i fwynhau prif siaradwyr, cymryd rhan mewn gweithdai, gweithgareddau hwyliog a chael gwybodaeth gan y rhai sy'n cynnig gwasanaethau i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
Bydd Tocynnau ar gael yn fuan!