ABOUT US
1,000 O LEISIAU CYMRU

Mae VFCC yn falch o lansio ein maniffesto ar gyfer etholiadau Senedd Cymru yn 2021. Wedi'i greu ochr yn ochr â grŵp cynghori ein person ifanc, cymuned profiadol gofal ehangach a chyda chymorth y trydydd sector, mae gennym ofyn syml, i wrando. Yr ydym yn galw ar y Prif Weinidog nesaf i ymrwymo i wrando ar 1,000 o blant a phobl ifanc sy'n brofiadol o ofal erbyn 2024. Adeiladu system ofal yn adeiladu ar sefydlogrwydd, dyheadau a pherthnasoedd.
Gallwch lawrlwytho'r maniffesto llawn yma: VFCC Manifesto CYM
Neu gallwch lawrlwytho crynodeb y maniffesto yma: VFCC Manifesto Summary CYM
Mae ein maniffesto yn gofyn
Drwy estyn dyletswyddau Rhianta Corfforaethol mewn deddfwriaeth i’r holl gyrff cyhoeddus yng Nghymru. Rhaid ymgorffori’r cymorth mewn deddfwriaeth hwn ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Dylai pob Corff Rhianta Corfforaethol ddatblygu strategaeth sy’n amlinellu sut byddant yn deall yn well, yn asesu anghenion, yn hyrwyddo diddordebau ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Dylai’r cabinet ddangos ymrwymiad drwy greu gweinidog plant a phobl ifanc a fydd yn gweithredu fel amddiffynnydd allweddol ar gyfer hawliau plant sydd â phrofiad o ofal nes eu bod yn 25 mlwydd oed.·
Mae angen diwygio’r gwasanaethau Iechyd Meddwl a Llesiant Emosiynol ar gyfer pobl
ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae gan blant sydd â phrofiad o ofal yr hawl i gael cymorth
iechyd meddwl, ac mae llawer o blant sydd â phrofiad o ofal yn cael ei gadael i lawr am
nad yw’r cymorth iechyd meddwl cywir yn cael ei ddarparu iddynt ar yr amser cywir.
Dylai Rhieni Corfforaethol megis iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg weithio
gyda’i gilydd i ddarparu ymagwedd gydgysylltiedig tuag at wasanaethau emosiynol ac
iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal; Diwygio sut rydym yn
asesu llesiant plant sydd â phrofiad o ofal drwy gydol eu siwrnai ofal; Cael gweithwyr
proffesiynol sydd yn hyderus o ran deall dulliau sy’n seiliedig ar drawma. Mae ymyrraeth
gynnar yn allweddol i atal pobl ifanc rhag bownsio o wasanaeth i wasanaeth, gan arwain
at beidio â mynd i’r afael yn llawn â’u problemau, gan waethygu pan maent yn oedolion.
I’r rhai mwyaf anghenus, dylid darparu adnoddau wedi eu neilltuo’n benodol gan CAHMS
ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae angen gwasanaeth iechyd
meddwl a lles cynhwysfawr ar Gymru sydd yn llenwi’r bwlch canol sydd ar goll ar hyn o
bryd; gan ddiwallu anghenion ein plant mwyaf agored i niwed.·
mental health services for care experienced children and young people. Reforming how we assess the wellbeing of care experienced children throughout their care journey.
Having professionals confident in understanding trauma informed approaches. Earlier intervention is key to stopping young people bouncing from service to service, resulting in their issues never being fully addressed and therefore escalating into adulthood. For those most in need, dedicated CAHMS resources for care experienced children and young people. Wales needs a comprehensive mental health and wellbeing service that plug the current missing middle; whilst meeting the needs of our most vulnerable children.
Dylai perthnasau fod yn brif ystyriaeth ym mhob penderfyniad a wneir am ofal person
ifanc, gan ddarparu cysondeb drwy eu plentyndod hyd nes eu bod yn oedolyn. Mae
perthnasau cryf yn darparu ymdeimlad o sefydlogrwydd, hunaniaeth a pherthyn i berson
ifanc. Gall y perthnasau yma gynnwys unigolion o asiantaethau statudol, gofalwyr maeth
cyfredol ac o’r gorffennol, aelodau o’r teulu a ffrindiau. Dylai adolygiad gofal person
ifanc eu grymuso, gan ganiatáu i blant a phobl ifanc adnabod pwy sy’n bwysig iddynt.
Sicrhau bod gwaith taith bywyd yn darparu ymdeimlad o hunaniaeth gyfan i berson
ifanc; nid dim ond teulu. Yn bwysicaf oll, ni ddylai unrhyw berson ifanc gael eu gwahanu
oddi wrth eu brodyr a’u chwiorydd, heblaw mewn amgylchiadau eithriadol, a dylid gosod
yr un pwysigrwydd ar ‘gyswllt’ gyda brodyr a chwiorydd â rhieni biolegol.
empowering, allowing children and young people to identify who are important to them. Ensuring life journey work provides a young person with a sense of their whole identify; not simply family. Most importantly no young person should be separated from their siblings, only in exceptional circumstances and ‘contact’ with siblings should be afforded the same importance as with birth parents.
Ymrwymiad cenedlaethol dan arweiniad y Prif Weinidog tuag at bobl sydd yn gadael gofal hyd at 25 mlwydd oed. Gan dynnu ar gefnogaeth Llywodraeth Leol a’r Llywodraeth Genedlaethol, y sector preifat a’r sector gwirfoddol i greu cyfres o ymrwymiadau wedi eu meincnodi i’r rhai sy’n gadael gofal, waeth ble maent yn byw yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys mwy o gymorth pontio i fyw yn annibynnol, profiad gwaith, cyflogaeth â thâl, cyfleoedd arloesol i ehangu gorwelion pobl sy’n gadael gofal, cynnig tai o ansawdd, fel nad yw’r un person sy’n gadael gofal yn cael ei roi mewn llety amhriodol neu heb ei reoleiddio. Ehangu’r ddarpariaeth ‘Pan Rwy’n Barod’ ac unrhyw gostau o gymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
Cael gwared ar yr elfen gwneud elw o leoliad plentyn sydd â phrofiad o ofal. Mae pobl ifanc yn dweud wrthym eu bod yn teimlo’n ofidus, yn ddig ac wedi eu masnacheiddio pan fo sgyrsiau am gostau lleoliadau yn dod yn ffactor yn eu bywydau. Gall dileu cymhellion i wneud elw sicrhau bod pob ceiniog yn cael ei gwario ar adeiladu lleoliadau sefydlog, cefnogol a chynaliadwy, yn hytrach na chael eu harallgyfeirio i gyfranddalwyrpellennig. Gallai hyn fod yn ymagwedd nid-er-elw neu adfer cost lawn. Dylai unrhyw ymagwedd gael ei chyflwyno o dipyn i beth er mwyn sicrhau nad yw’n tarfu ar leoliadau cyfredol.
Neges i'r Prif Weinidog
Annwyl Ddarpar Brif Weinidog, rydym ni yn blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ac yn aelodau o elusen Voices From Care Cymru. Fel Prif Weinidog chi fydd ein prif riant corfforaethol. Mae’n bosib y byddwch yn ein hadnabod fel plant sy’n derbyn gofal a phobl ifanc sy’n gadael gofal, fel y’i diffinnir dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru )2014, ond mae’n well gennym gael ein galw’n bobl sydd â phrofiad o ofal. Ar hyn o bryd mae 6,846 ohonom mewn gofal, gyda 5,400 arall yn blant wedi eu mabwysiadu; sydd hefyd yn rhan o’n cymuned o bobl sydd â phrofiad o ofal. Mae rhesymau lu pam ein bod mewn gofal, ond mae pob un ohonom wedi profi trawma yn ein plentyndod. Mae llawer ohonom yn byw mewn cartrefi maeth (3,520 o blant) a gofal preswyl (470 o blant) ond rydym hefyd yn byw mewn gofal gan berthynas, gydag aelod o’r teulu (1,348 o blant). Rydym yn aml yn cael ein gwneud i deimlo’n wahanol a’n stigmateiddio am nad ydym yn ‘byw gyda rhiant biolegol’. Rydym am i Gymru arwain y ffordd gan roi’r gofal inni a fydd yn ein galluogi i ffynnu, i deimlo’n ddiogel a chael ymdeimlad o berthyn. Credwn fod gennych chi a’ch llywodraeth y cyfle i wneud hyn. Yr unig beth a ofynnwn yw eich bod yn gwrando arnom a’n bod yn cael ein clywed.
Eich Ymrwymiad
Fel Prif Weinidog gofynnwn am eich ymrwymiad i wrando ar 1,000 o blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal o bob cwr o Gymru i gyd-gynhyrchu system ofal sy’n seiliedig ar ddyheadau a pherthnasau.
Blaenoriaethau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal
Rydym wedi cyfrannu at Voices From Care Cymru; yr unig elusen annibynnol sy’n ymroi’n gyfan gwbl i wella bywydau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru, ynghylch y materion sydd o’r pwys mwyaf inni.
- Iechyd Meddwl a Lles
- Perthynas Brodyr a Chwiorydd
- Cael ein caru
- Torri’r Stigma
- Sefydlogrwydd
Rydym am weld system ofal sydd yn darparu’r sefydlogrwydd, y cymorth a’r cariad sydd ei angen ar holl blant a phobl ifanc i ffynnu. Gall y system ofal gyflawni hyn. Fodd bynnag, fe wyddom fod y system yn creu ansefydlogrwydd i ormod o blant a phobl ifanc, sydd yn dwysau’r trawma maent eisoes wedi ei brofi. Mae Voices From Care Cymru a’n Grŵp Ymgynghorol ar gyfer pobl ifanc yn galw am gyfres o newidiadau rhagweithiol cyn daw etholiadau Mai 2021.
Gair gan ein pobl ifanc
Ni yw Grŵp Ymgynghorol Voices From Care Cymru, ac fe hoffem ni a’n haelodaeth ehangach o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal siarad gyda chi am eich maniffesto a chynorthwyo gyda goleuo eich gweledigaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru. Dros y misoedd nesaf, bydd Voices From Care Cymru yn rhyddhau mwy o fanylion ar sut y gallwn ni gyflawni’r hyn rydym yn galw amdano uchod, creu system ofal sydd wedi ei hadeiladu ar sefydlogrwydd, dyheadau a pherthnasau llawn cariad.