Sut i wneud cwyn
Mae Voices from Care Cymru (VFCC) wedi ymrwymo i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl i ofalu am blant a phobl ifanc ac felly mae'n cydnabod pwysigrwydd derbyn adborth ar y ffordd y mae'n gweithio.
Dim ond os yw pobl yn dweud wrthym pan fyddant yn teimlo bod rhywbeth o'i le y gall VFCC wneud hyn.
Os nad ydych yn fodlon â'r gwasanaeth y mae VFCC yn ei ddarparu, mae gennych hawl i gwyno.
I wneud cwyn am y gwasanaeth y mae VFCC yn ei ddarparu neu am aelod o staff, ysgrifennwch at Brif Swyddog Gweithredol Voices From Care Cymru, 45 The Parade, Caerdydd CF24 3AB.
I wneud cwyn am Ymddiriedolwr VFCC, ysgrifennwch at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau Dynol yn Voices From Care Cymru, 45 The Parade, Caerdydd CF24 3AB.
Os oes angen help arnoch i ysgrifennu'r gŵyn gallwch ofyn i rywun arall ei hysgrifennu ar eich rhan, fel eiriolwr neu gynghorydd personol. Os ydych chi am i rywun o VFCC eich helpu i'w ysgrifennu, ffoniwch 02920 451431 a gofynnwch am gael siarad â'r Rheolwr Cymorth Busnes.
Ar ôl i'ch cwyn gyrraedd, byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth cyn pen 5 diwrnod gwaith.
Gall y person sy'n delio â'ch cwyn gysylltu â chi i gael mwy o wybodaeth.
Byddant yn gwneud penderfyniad am y gŵyn cyn pen 25 diwrnod gwaith o'i derbyn ac yn dweud wrthych beth yw'r canlyniad.
Os nad ydych yn hapus â'r penderfyniad a wnaed, gallwch apelio.
Dylid apelio cyn pen 5 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y canlyniad a'i anfon at Gadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn Voices From Care Cymru, 45 The Parade, Caerdydd CF24 3AB.
Byddant yn adolygu'r gŵyn a'r penderfyniad gwreiddiol ac yn ymateb i chi cyn pen 25 diwrnod gwaith.